SL(6)141– Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Cynigion Cyllidebol a Chyrff Dynodedig) (Diwygio) 2022

Cefndir a Diben

Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Cynigion Cyllidebol a Chyrff Dynodedig) 2018 (“Gorchymyn 2018”) sy’n dynodi cyrff penodedig mewn perthynas â Gweinidogion Cymru er mwyn cynnwys, o fewn cynnig cyllidebol, yr adnoddau y disgwylir i’r cyrff hynny eu defnyddio.

Diben y Gorchymyn hwn yw cywiro camgymeriad yng Ngorchymyn 2018 trwy ddileu North East Property LP (rhif cwmni LP017936) o'r rhestr o gyrff dynodedig yn yr Atodlen i Orchymyn 2018, a oedd wedi'i fewnosod trwy gamgymeriad gan Orchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Cynigion Cyllidebol a Chyrff Dynodedig) (Diwygio) 2021. Mae’r Gorchymyn hwn hefyd yn mewnosod y corff North East Property (GP) Limited (rhif cwmni 04069901) yn yr Atodlen honno. Mae’r Memorandwm Esboniadol yn nodi bod y diwygiad hwn yn angenrheidiol gan nad yw North East Property LP wedi'i ddosbarthu i sector y llywodraeth ganolog ac nid yw'n rhan o gyfrifon cyfunol Grŵp Banc Datblygu Cymru tra bod North East Property (GP) Limited wedi'i ddosbarthu i sector y llywodraeth ganolog ac mae'n rhan o gyfrifon Cyfunol Grŵp Banc Datblygu Cymru. Nid yw ond yn briodol i gyrff sy'n perthyn o fewn sector y llywodraeth ganolog gael eu dynodi gan Orchymyn 2018.

Gweithdrefn

Negyddol.

Gwnaed y Gorchymyn gan Weinidogion Cymru cyn iddo gael ei osod gerbron y Senedd. Gall y Senedd ddirymu'r Gorchymyn cyn pen 40 diwrnod (ac eithrio unrhyw ddiwrnodau pan fydd y Senedd: (i) wedi'i diddymu, neu (ii) ar doriad sy’n fwy na phedwar diwrnod) o'r dyddiad y cafodd ei osod gerbron y Senedd.

Materion technegol: craffu

Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Rhinweddau: craffu    

Nodir un pwynt ar gyfer adrodd o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

1. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.

Gallai Gweinidogion Cymru ddewis pa weithdrefn i’w defnyddio ar gyfer yr offeryn hwn yn unol ag adrannau 126A(9) ac 126A(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru, a dewiswyd y weithdrefn negyddol sydd, fe ymddengys, yn briodol.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Nid oes angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

2 Chwefror 2022